Sefydlwyd Canolfan Arwerthiant Bryncir ym mis Tachwedd 2001, ac mae’n un o’r cwmnïau arwerthu ieuengaf yn y wlad.
Ond mae gan safle Mart Bryncir yng Ngogledd Cymru draddodiad hir o arwerthiannau da byw amaethyddol a thir ac eiddo, oherwydd cynhaliwyd yr arwerthiant da byw cyntaf ar y safle ar 19 Mawrth 1920.
Bu’r mart ar gau dros dro ar ôl clwy’r traed a’r genau yn 2001. Ond ysgogodd hyn y gymuned amaethyddol leol i weithredu, a gyda chyfarwyddyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, crëwyd Canolfan Arwerthiant Bryncir gyda’r bwriad o brynu’r safle gwreiddiol a chynhaliwyd yr arwerthiant cyntaf ar 4 Mawrth 2002.
Yr Arwerthwyr a gyflogir i weithredu Canolfan Arwerthiant Bryncir yw Lloyd Williams & Hughes, sydd hefyd wedi’u lleoli ym Mryncir.
Mae gan y Cyfarwyddwyr Mr John Huw Hughes a Mr John Lloyd Williams brofiad helaeth a gwerthfawr iawn ac fe’u cefnogir gan Mr Hywel Evans.
Gall Bryncir a’r ardal o’i gwmpas, sy’n cynnwys Gwynedd, Ynys Môn a rhannau o Feirionnydd, ymffrostio yn safon y stoc sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Daw mwyafrif y gwartheg o fuchesi magu enwog o fridiau Charolais a Limousin yn bennaf.
Daw’r ŵyn tew o ystod o ardaloedd gwahanol, sy’n ymestyn o ardal gynnar Pen Llŷn i fynyddoedd Eryri, gan roi cyflenwad cyson o stoc drwy gydol y flwyddyn.
JOHN HUW HUGHES Fel Arwerthwr Da Byw arbenigol, mae’n delio â phob math o dda byw, ond yn bennaf â gwartheg, ynghyd ag arwerthiannau Fferm a Pheiriannau. Mae John hefyd yn arwain ein portffolio Gosod Tir. Ffôn: 07780 705 836 |
JOHN LLOYD WILLIAMS, MRICS CAAV MRAC Ffôn: 07780 705 837 |
HYWEL EVANS, BSc (Hons) FLAA Ffôn: 07747 620 082 |
RHIAN JONES HUGHES Ffôn: 07769 919 821 |
NON GRIFFITH Ffôn: 07769 919 821 |